oblegyd nid oedd pan ymadewais â hi mor hen) yn costio i mi ond ychydig iawn at ei chadw er pan y prynais hi am bunt, yn dri mis oed. Y mae wedi byw ar bwcedaid o olchion o'r tŷ (erwyn pytatws, ac ysbwrial o'r fath,) fore a hwyr, ynghydag ychydig ysgarthion o ardd fechan, ac ychydig laswellt a borai yn ystod y dydd mewn perllan fach. A rhoddi amcan argyflawn werth yr ymborth a roddais iddi, yn sicr nid ydoedd wedi costio i mi fwy na saith geiniog yn yr wythnos er pan yr oedd genyf. Yr wyf yn cyfrif fy mod wedi enill yn glir £25 yn y flwyddyn ar yr hwch yma yn ystod y tair blynedd blaenorol cyn i im ei gwerthu hi a'i thorllwyth olaf. Yn ystod y tair blynedd hyny, yr oedd yr hwch yma wedi fy anrhegu âg oddeutu 90 o foch bach o gwbl, y rhai a werthais am bunt yr un ar gyfartaledd, yr hyn a gyrhaeddai oddeutu £30 yn y flwyddyn."
Richardson, ysgrifenydd manwl ar gadwraeth moch, a ddywed fel hyn:-"Yn ol yr amcangyfrifiad lleiaf, y mae enill o £300 i £400 y cant ar y gost o fagu hychod a pherchyll."
Nid oes yr un anifail a ddwg enill yn fwy rheolaidd nac yn fwy cyflym nag a gwna yr hwch, ac nid oes un anifail, o'i maintioli, y gellir ei gadw ar lai o draul arianol, nac yn gofyn mor lleied o lafur a thrafferth i edrych ar ei ol. Y mae hychod a ddygir yn rheolaidd at y baedd, ac a ddygant dorllwythi lluosog, os byddant yn famau gofalus, yn sicr o droi allan yn enillgar iawn. Os bydd i'r hwch gymeryd y baedd, fel y gwnant yn gyffredin, yn mhen deng niwrnod ar ol dyfod a pherchyll, yn lle yn mhen wyth wythnos ar ol hyny, wrth gŵrs cynyrcha fwy o foch bach yn ystod yr amser y bydd i chwi ei chadw i fridio, a chewch fwy o enill ar gyfartaledd yn y diwedd. Gan hyny, y mae yn gwbl bosibl i hwch ddwyn i mewn enill blynyddol o £30 o leiaf, er y rhaid edrych ar y fath enill fel peth nad ydyw bob amser yn gyrhaeddadwy. Gellir dyweyd fod prisiau moch bach yn amrywio, ac nad yw y pris a nodwyd yn flaenorol am danynt bob amser i'w gael; ond, mewn gwirionedd, y mae prisiau y cyfryw trwy Loegr a Chymru, yn ystod y blynyddau diweddaraf, ar gyfartaledd yn nes i £1 nag i 18s., ac yn nghymydogaeth trefydd, a