mor uchel fel ag i dynu i lawr yr enill ar besgi moch at facwn hyd ddim braidd; a gellir dywedyd agos yr un peth am berchyll hefyd; nid oes ond ychydig neu ddim proffit i'r llafurwr neu y gweithiwr tylawd yn y wlad, wrth amcanu at besgi y rhywogaeth gyffredin o foch ar flawd a fyddont wedi ei brynu, os bydd y pris yn uchel.
Rhaid y bydd gan ffermwyr, y rhai a feddant eu blawd a'u cynyrchion llysieuol eu hunain, pytatws, maip, rwdins, a gwreiddiau ereill, yn nghyda digonedd o laeth ysgum a golchion y llaethdy, fantais fawr ar bawb a brynant fwyd i'w moch; ac os gall rhywrai besgi moch er mantais iddynt eu hunain, rhaid mai y ffermwr, y melinydd, neu y darllawydd ydyw hwnw. Y mae y mochyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y llaethdy, yn gymaint felly ag ydyw y llaethdy ar gyfer y mochyn. Y mae yr anifail yma yn difa holl laeth ysgum ac enwyn y llaethdy, ac fel ad—daliad am hyny y mae yn dychwelyd mewn cig un geiniog am bob chwart o'r hyn a yfa. Y mae hyn, pa fodd bynag, yn eithaf da gyda golwg ar y rhai a gadwant eu gwartheg eu hunain, &c., ond nid yn gymhwys at y miloedd o bobl dylodion, gweithwyr, a llafurwyr, y rhai a gadwant foch er mwyn gwneyd ychydig enill oddiwrthynt. Gan hyny, ni a nodwn allan gynllun trwy ba un y gellir cadw mochyn gan weithwyr a phobl dylodion, nad ydynt yn meddu yr un o'r manteision a nodwyd uchod, ond y rhai, er hyny, a allant wneyd llawer mwy o enill wrth fagu moch bach na thrwy besgi moch tewion. Felly ni a soniwn yn bresnol am YR HWCH FAGU
YR HWCH FAGU
yr hon sydd yn dra epilgar, ac mor enillfawr, ac hefyd mor rhwydd a rhad i'w chadw. Am yr hwch fagu, dywed Mr. Kinard B. Edwards, awdwr adnabyddus a galluog ar bob math o anifeiliaid a ffowls, yn mhlith y Saeson, fel y canlyn:
"Yr oedd genyf yn ddiweddar hwch fagu a ddygodd i mi dri thorllwyth (35 o foch bach o gwbl,) yn ystod deuddeng mis o amser. Nid oedd yr hen hwch yma (neu yn hytrach, yr hwch ieuangc yma, fel y dylwn ei galw,