Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrâm mor fechan, nac yn cynyrchu mor lleied o wâst. Nid yw cig yr un anifail arall, ychwaith, mor werthfawr nac mor gyffredinol ddefnyddiol. Y mae porc yn rhagorol a maethlawn yn ei gyflwr ffresh, y mae yr un mor dda wedi ei biclo, ac y mae y goreu o bob cig at ei halltu. Nid oes un anifail mor galed neu mor hawdd ei gadw, neu a ddaw yn ei flaen ar y fath amrywiaeth o ymborth; a bydd i'r cwt gwaelaf wneyd y tro iddo. Gellir galw y mochyn yn etifeddiaeth y dyn tylawd; yn Nghymru, efe ydyw bank y gweithiwr a'r llafurwr; ac yn yr Iwerddon, adnabyddir ef fel "y gŵr boneddig sydd yn talu yr ardreth."

Nid wyf yn meddwl fod braidd neb a wâd nad ydyw y mochyn, a'i drin yn briodol, yn alluog i gynyrchu enill mawr, gan fod pawb sydd yn eu cadw yn cydnabod eu bod "yn talu;" pa un bynag a fyddo ai y gweithiwr gyda'i un mochyn, neu y person gyda'i ddau neu dri, y ffermwr gyda'i ddeg neu ddeuddeg, neu y porthmon gyda'i ddau neu dri chant o honynt. Pa fodd bynag, y mae yr enill a ddeillia oddiwrth gadw moch yn dibynu i raddau helaeth ar y driniaeth a ymarferir, neu ar y rhywogaeth neillduol a gedwir, a'r draul a elo i'w porthi. Lle y mae un dyn yn enill £2 ar bob mochyn, y mae y llall yn gwneyd dwbl y swm hwnw, tra y mae un arall yn gwneyd pedwar gwaith y swm a nodwyd.

Y mae llawer o ffyrdd i gadw moch, er gwneyd iddynt dalu; ac y mae yn debyg nad oes ond ychydig o bersonau yn eu cadw gydag un bwriad arall. Bydd i un dyn gadw hwch, a gwerthu ei pherchyll yn wythnos oed; ceidw un arall hwy am bedwar mis, gan eu gwerthu fel perchylliaid; un arall a'u ceidw nes y byddont wedi tyfu i gyflawn faintioli, gan eu gwerthu fel moch teneuon; a'r pedwerydd a'u pesga at wneyd bacwn, neu at fridio. Ond yn gymaint a bod cynifer o wahanol ffyrdd at beri enill, rhaid fod rhyw ffordd yn fwy enillgar na'r llall; a'n dyben ni yn bresenol ydyw dangos yr un fwyaf enillgar, yn ol profiad y rhai goreu am fagu moch, yn enwedig gyda golwg ar weithwyr a llafurwyr.

Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, y mae pris blawd haidd—ac yn wir pob math o rawn—wedi bod weithiau