¶
![300](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/5/5c/Cyfarwyddiadau_at_gadw_moch_%28crop_p_7%29_01.jpg)
CYFARWYDDIADAU
AT GADW A MAGU MOCH:
Y FANTAIS O GADW MOCH.
PRIODOL iawn yr ystyrir y mochyn, o ran ei bwysigrwydd fel moddion cynaliaeth ac elw i'r dosparth isaf o bobl, yn nesaf at y fuwch; ac yn wir, mewn llawer o bethau y mae yn fwy cyrhaeddadwy, yn haws ei borthi, ac hyd yn nod yn fwy defnyddiol na'r anifail gwerthfawr a phwysig hwnw.
Diau nad oes un anifail ag sydd yn cael ei gadw yn fwy cyffredinol, nac yn cael ei werthfawrogi yn fwy trwy yr holl fyd, nag ydyw y mochyn.
Y mae yr anifail gwerthfawr hwn yn cael ei gadw gan filoedd a bobl ag ydynt yn rhy dylawd i gadw un anifail arall, ac ymddengys fel pe byddai y creadur yma yn gallu ymgyfaddasu at anghenion ac amgylchiadau pawb. Nid yw yn ymddangos fod neb yn rhy dylawd i gadw un, ac nid oes ond ychydig iawn o bobl yn rhy gyfoethog i'w ddiystyru.
Yn mha anifail y ceir cynifer o ragoriaethau amrywiol? Nid oes un anifail arall mor epilgar, yn pesgi mor gyflym, nac yn cyrhaedd ei lawn faintioli mor fuan; nid oes un anifail arall yn enill pwysau cyfartal ar yr un swm ac ansawdd o ymborth. nac yn cario cymaint o gig ar