Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hytrach, y talcen braidd yn grynaidd, ac yn adgyrfio i fyny; a dylai y glust, er yn lliprynaidd, ogwyddo ychydig yn mlaen, a bod yn deneu ac ysgafn ar yr un pryd.

"Ni fynwn ychwaith i'r prynydd fyned heibio yn ddisylw hyd yn nod i gerddediad mochyn. Os bydd ei gerddediad yn swrth, trwm, a marwaidd, tueddid fi i'w wrthod, am yr amheuwn nad yw yn iach, os na byddai rhyw afiechyd gweledig yn bodoli ynddo y pryd hwnw, ei fod ar fin tori allan; nis gall fod un arwydd gwaeth na phen lliprynaidd a llusgol, yn cael ei gario megys pe buasid am ei ddefnyddio fel pummed,coes.

"Bid sier, os byddwch yn prynu mochyn at ei ladd, neu hwch dòrog, prin y gallwch ddysgwyl ysgafnder cerddediad; ond yr wyf fi yn cyfeirio yn benaf at brynu ystorfoch ieuaingc, y ganghen gyffredin o fagwraeth moch, am mai hi ydyw yr un fwyaf enillgar.

"Ac nid yw y lliw ychwaith i'w adael yn hollol ddisylw. Gyda golwg ar foch, yr un modd a phob math o dda byw, byddai i mi ddewis y lliwiau hyny ag a nodweddant ein rhywogaethau gwerthfawrocaf. Os bydd y gwrych yn deneu, edrychwn am ddu, am y dynodai hyny gysylltiad â moch tyner Naples; ond os byddant yn rhy lwm o flew, tueddid fi i ofni cysylltiad rhy agos â'r amrywiaeth hwnw, a diffyg caledrwydd o ganlyniad, yr hyn, gan nad pa mor ddibwys bynag ydyw, os eu cig a fydd mewn golwg genych, a wna y cyfryw anifeiliaid yn anturiaeth beryglus fel ystorfoch, am eu bod mor agored i gael anwyd, ac o ganlyniad yn ddarostyngedig i fagu afiechyd. Os moch gwynion a fyddant, ac heb fod yn rhy fychain, buaswn yn eu hoffi am eu bod yn arddangos cysylltiad â mochyn China. Os goleu neu felynaidd a fyddant, neu goch gydag ysmotiau duon, adnabyddwn yr anifail dymunol hwnw-mochyn Berkshire; ac felly yn mlaen gyda phob amrywiaeth dichonadwy o liwiau. Gall y sylwadau hyn ymddangos yn ddibwys i rai darllenwyr, ac efallai i ryw ddosbarth o bobl ag sydd yn gynefin â magu moch; ond gallaf eu sicrhau mai dyna y sylwadau pwysicaf a wnaethum i eto, ac y` byddai yn lleshaol i'r porthmon pe yr edrychai atynt yn fanwl."