Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM EPILIO A MAGU MOCH.

Gallwn sylwi yn gyffredinol fod un baedd i gael ei ganiatâu at ddeg o hychod, a dylai y naill a'r llall fod yn flwydd oed cyn gadael iddynt gymharu. Y mae yr hwch yn gyffredin yn cynyrchu perchyll yn yr eilfed wythnos ar bymtheg, a dichon iddi gael tri thorllwyth mewn blwyddyn, ond gwell ydyw peidio gadael iddynt gymeryd y baedd bob adeg pan y gofynant ef, rhag i'r perchyll gael eu gwanhau trwy eu bod yn ddiffygiol o nerth i'w sugno. Gofalwch na byddo yr hychod yn rhy dewion ar yr adeg pan y byddont yn cynyrchu perchyll; ond gellwch eu porthi yn helaeth wedi hyny, fel y byddo iddynt roddi rhagorach maeth i'r perchyll.

Yr adeg oreu o'r flwyddyn i'r hwch gymeryd y baedd ydyw o fis Tachwedd hyd ddiwedd mis Mawrth, neu ddechreu Ebrill. Os bydd i'r hwch golli yr adeg hono, neu heb fod yn awyddus am y baedd, bydd i ychydig geirch wedi ei grasu, a'i ddod yn ei hymborth bob bore a hwyr, ei thueddu i'w dderbyn.

Dylid cymeryd gofal mawr o hychod pan y byddont yn dyfod a pherchyll, a dylid eu cau mewn cwt, rhag dygwydd damweiniau. Ni ddylid gosod dwy o honynt gyda'u gilydd, rhag iddynt crwedd y naill ar y llall, a thrwy hyny niweidio eu hunain. Bydded iddynt fwrw eu perchyll yn y cwt, pe amgen collid y perchyll, yr hyn a barai golled fawr i'r meithrinydd.

Os bydd i'r hwch ddwyn nifer mawr o berchyll, gall y perchenog ei chynorthwyo trwy borthi y moch ieuaingc gyda llaeth cynhes, gydag ychydig o siwgr brâs ynddo, fel y byddont yn gallu ei gymeryd.

Pan y mae hwch wedi dwyn nythiad cyflawn o berchyll, gellir rhoddi iddi haidd wedi ei feddalu mewn dwfr; y mae yn tueddu at ei hoeri, ac y mae yn ei nerthu, ac yn maethu ei chyfansoddiad. I'r dyben o gadw hychod rhag gwneyd niwaid, a bod yn ddireidus ar adeg dwyn perchyll, bydded iddynt gael dwfr yn lle digonedd o laeth, neu y golchion goreu o'r llaethdy, yr hyn a farnoch yn briodol i'w roddi iddynt.