Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a magu moch, am yr ystyrir yn gyffredin gan borthmyn ei fod yn bwngc gwir bwysig; ac y mae y dyfyniadau a wnaethom o weithiau tri o'r prif efrydwyr yn y mater hwnw, yn deilwng o sylw pob un a fyddo yn teimlo dyddordeb yn magwraeth y mochyn; er y gallant, mewn ychydig fanylion, fod yn gwahaniaethu i raddau dibwys mewn rhai pethau.

AM GYTIAU MOCH—GLAN WEITHDRA.

Dichon y gall rhai feddwl yn isel am y pwngc hwn; ond er hyny, ac er fod moch i'w cael yn mhob gwlad mewn cyflwr llwyddiannus, a bod eu cyfansoddiad wedi ei gyfaddasu at bob hinsawdd, eto canfyddir eu bod yn gwaethygu, ac heb ddyfod yn mlaen cystal, mewn eithafion gwres ac oerni. Canfyddir hwy yn eu cyflwr naturiol, pan yn preswylio naill a'i mewn gwledydd eithafol o boeth neu oer, yn chwilio am y lleoedd cyfaddasaf i'w cyfansoddiad.

Y mae moch, yn eu cyflwr dof, yn gofyn cael eu cadw yn dra sychion a chynhesion, onitê ni ddeuant byth yn eu blaenau yn dda. Gellir eu gweled yn y tywydd oer bob amser yn ymgladdu yn y gwellt a'r gwasarn a roddir iddynt fel gwely, ac fel hyn dynodant eu hawydd naturiol at wres. Gan hyny, dylai cytiau y moch fod mewn llecyn gysgodog, ac yn gwynebu y dehau neu y gorllewin, os bydd modd. Os cedwir hwy mewn cytiau bychain, dylai fod agorfa fechan yn mhob pen iddynt, fel ag i ollwng awyr iach drwyddynt i'w gwyntellu. Gellir cadw y rhai hyn yn agored bob amser yn ystod y misoedd haf; ond ni ddylid eu hagor i ollwng awyr i mewn ond unwaith bobyneildydd yn y gauaf, a hyny yn y bore, a gofaler am eu cau i fyny at yr hwyr.

Canfyddir y bydd i foch dyfu hyd yn nod pe yr esgeulusid yr holl bethau hyn; ond yr ydym yn gwybod trwy brofiad y tyfant ac y pesgant yn gyflymach o lawer, ac y byddant yn fwy iachus, os telir sylw priodol iddynt. Os bydd y tywydd yn deg, gall ychydig oriau o ryddid wneuthur mawr les i iechyd a chyflwr mochyn ar ei dyfiant, ac os ca ychydig borfa, goreu oll.

Cedwir moch yn gyffredin mewn cyflwr cywilyddus o