Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fudr; eu cytiau heb awyr iach yn myned drwyddynt, y gwellt odditanynt yn ffiaidd, eu buarth cyfyng ronyn gwell na thomen wleb, a chroen yr anifail o ganlyniad yn orchuddiedig â chrêst a phob math o amhureddau. Y mae yr hen ddywediad, "Yr hwch wedi ei golchi yn dychwelyd i'w hymdreiglfa yn y dom," megys yn cadarnhau y syniad mai un naturiol fudr ydyw yr anifail yma; ond nis gellir beio y dull cyffredin o drin y mochyn, gyda golwg ar hyn yn rhy lym, oblegyd nid ydyw yn naturiol yn fudr, fel y tybiai rhai, ond y mae yn hoffi cael ei gadw yn sych a glân, yn gystal a chynhes, fel y gall pawb weled wrth sylwi ar yr hyfrydwch a arddengys pan y mae ei groen yn cael ei grafu a'i ysgrwbio. Gan hyny, yr ydym yn atolygu ar bawb sydd yn cadw moch, am iddynt gadw eu cytiau yn y cyflwr sychaf a glanaf ag y mae modd, newid y gwellt yn fynych, a chrafu croen y mochyn o leiaf unwaith yn yr wythnos. Trwy wneyd hyn, pe byddai yr anifail heb fymryn o ymborth yn ychwaneg nag arferol, bydd iddo ddyfod yn ei flaen a phesgi i raddau uwch, a bydd y cig yn fwy pur a thyner.

Ffurfiad a Sefyllfa y Cytiau.—Tuag at wneyd y mochyn yn gysurus, dylai ei gwt gael ei rana yn ddwy ran ystafell at gysgu, a buarth agored, y naill yn agor i'r llall. Dylai yr ystafell lle y byddont i gysgu fod tua saith troedfedd ysgwâr; wedi ei hadeiladau a'i thoi yn gadarn, er mwyn cadw gwlybaniaeth allan; a'r llawr, yr hwn y dylid ei wneyd o fyrddau cryfion, a ddylai redeg ychydig ar oriwaered at y drws. Dylai y buarth allanol fod tua deg troedfedd ysgwâr, wedi ei balmantu yn gadarn â llechfeini mawrion, ac yn rhedeg ychydig ar oriwaered mewn cyfeiriad pennodol, fel y gallo yr ysgarthion redeg i gwter o dan y ddaear. Y mae yn ddymunol i'r adeilad fod gerllaw y domen, fel y gallo yr holl wlybaniaeth redeg iddi, ac hefyd fel y galler trosglwyddo yr holl ysbwrial sylweddol iddi yn ddigolled. Bydded i chwi gadw digonedd o wellt yn y cwt ac yn y buarth, fel y byddo iddo sugno lleithder a thom, a rhacier y cyfan allan yn rheolaidd, a rhodder gwellt newydd yn ei le. Y mae yr arian a gollir trwy adael i'r dom redeg ymaith, trwy fygdarthiad—hyny ydyw, trwy iddo ehedeg ymaith i'r awyr