Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—yn fwy nag a feddyliai llawer un. Dylai buarth y cwt mochyn, os bydd modd, fod yn agored i'r haul, gan fod y moch yn dra hoff o dorhenlo yn ei belydrau. Dylai y llestri bwyta a osodir o flaen y moch yn y buarth fod yn gafnau cryfion o geryg, y rhai nis gellir yn hawdd eu dymchwelyd. A dylai y rhai hyn gael eu golchi a'u hysgwrio bob dydd; oblegyd er mai anifail budr yr ystyrir y mochyn, y mae bob amser yn fisi ar ei fwyd.

AM BORTHI A PHESGI MOCH.

Y mae y dull o borthi moch yn un o bwysigrwydd mawr. Fel anifeiliaid gwangcus dylid cadw golwg yn barhaus arnynt. Ni ddylid rhoddi ormodedd o fwyd cyn eu bod wedi prifio yn dda, ac ni ddylid eu porthi yn rhy aml. Rhodder iddynt ymborth yn gymedrol, y fath ag a'u ceidw mewn cyflwr da, ac yn rhwystro iddynt fod yn rhy farus. Os bydd i'r moch grwydro llawer yn ystod y dydd, a bwyta gormod o laswellt, yn enwedig yn y gwanwyn, y maent yn ddarostyngedig i fath o haint yn eu coluddion, yr hyn a eilw y Saeson yn gargut—nid ydym yn gwybod am enw Cymraeg arno. O ganlyniad, cyhyd ag y byddoch yn eu troi allan, ymarferwch â'u porthi bob bore a hwyr, ac ni fydd yn agos gymaint o berygl.

Mewn manau gwledig, lle y mae coedwigoedd mawrion i'w cael, a lle nad yw y borfa o fawr werth at ddim dyben arall, byddai epilio a magu moch yn orchwyl tra enillgar i'r llafurwr; oblegyd pan y mae ganddynt gylch eang grwydro, ni ofynant ond ychydig ymborth heblaw yr hyn a loffant eu hunain wrth bori o dan y coed, ac wrth gloddio am fân bryfaid a gwreiddiau o wahanol fathau—at y gorchwyl olaf y mae eu trwynau hirion a chryfion yn eu gwneyd yn dra chyfaddas. Nid ydys yn eu pesgi âg ymborth pryn, oddigerth yn y gauaf, a phan besgir y moch at y farchnad, neu i'w lladd. Y mae yn beth inwy cyffredin, pa fodd bynag, i'r llafurwr gadw mochyn neu ddau yn y cwt, er mwyn ychwanegu at foddion cynaliaeth ei deulu; ac hyd yn nod pan y cedwir ef gyda'r amcan cyfyngedig yma, nid yw y mochyn yn anifail dibwys. Y mae Cobbett yn gwneyd sylw craff