Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysmala ar hyn:—"Bydd i olwg ar hanerob neu ddwy o gig moch yn mhen y bwthyn, wneyd mwy tuag at gadw dyn tlawd rhag herwhela a lladrata, nag a wna cyfrolau cyfain o actau seneddol. Y maent yn dda hefyd at larieiddio y dymher, a meithrin cydgordiad teuluaidd."

Os byddwch yn myned i brynu porchell at ei borthi a'i ladd, gwell ydyw ceisio un a fyddo yn un mis ar bymtheg oed tua'r Nadolig, oblegyd tua'r amser hwnw neu yn Ionawr ydyw yr adeg oreu i ladd yr anifail. Oddieithr bod eisiau porc tyner, ni ddylid ei ladd tan flwydd oed. Yn yr haf, gellir porthi y mochyn ar unrhyw ysbwrial o'r gegin neu o'r ardd, yn cynwys crwyn maip a phytatws, gwehilion y bwrdd, dail cabaits, &c.; ond os gellir cael llwch haidd, neu soig o ddarllawdy neu dŷ tafarn, yn lled rad, y mae y naill neu y llall yn ymborth da iddo. Ond dylid cofio yn wastad mai po goreu fyddo yr ymborth, goreu a fyddo y porc. Dylai y bwyd fod o natur lysieuol, neu gan mwyaf felly; ni ddylid rhoddi iddo ddim ymborth o natur gigol, heblaw golchion oddiar y bwrdd. Beth bynag a roddir iddo, cynygier ef yn ddognau bychain, a hyny yn fynych, gan ei fod yn bwysig peidio gadael i'r mochyn fyned i gyflwr anarferol o wangclyd. Anoethineb mawr ydyw haner newynu moch, ac ad—delir am hyny trwy gael ysgerbwd teneu a gwael, na fyddo prin yn werth ei ladd.

Y mae gan ffermwyr fanteision mawrion i borthi moch. Mae y gwellt—fuarth ynddo ei hun, yn cynyrchu cynaliaeth ddigonol iddynt; ac y mae llawer o foch yn flwydd oed cyn derbyn dim ymborth ond a gasglant eu hunain, eto y maent mewn cyflwr da. Gydag ysbwrial yr ysgubor, a'r gwellt, y maip, y moron, a'r meillion, a orweddant hyd y lle, ystyrir y gall ffermwr gynal moch yn y cyfartaledd o un at bob saith neu wyth erw o dir a fyddo ganddo dan gnwd, heb wybod am yr hyn a fwytânt. Anfynych y megir moch yn y fath rifedi fel ag i beri codi cnydau pennodol ar eu cyfer, er fod rhai ysgrifenwyr yn haeru y cynyrchent, yn y cyfryw amgylchiad, fwy o enill mewn llai o amser nag anifeiliaid ereill a borthir yn y dull hwnw. Mewn manau lle y megir moch ar raddfa eang, adeiladir