Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sychion, a chynhesion. Y mae hyn o bwysigrwydd hanfodol, ac nid ydyw fymryn yn llai felly na'u porthi; canys bydd i ymborth gwael lwyddo yn well gyda'r pethau hyn, na'r ymborth goreu hebddynt.'

[ocr errors] Ar ddiwedd y rhagocheliadau hyn y mae awdwr arall yn sylwi fel y canlyn:—"Tra y byddaf yn son am lanweithdra, gadewch i mi ail—adrodd am y lles a ddeillia oldiwrth olchi moch; bydd i hyn ad—dalu am eich trafferth lawer gwaith."

Y DULL O OLCHI MOCH.

Y prif atalfa ar ffordd moch i ddyfod yn eu blaenau ydyw gadael iddynt orwedd mewn gwlybaniaeth. Os bydd gwrych eich moch yn sefyll i fyny, ac yn edrych yn arw, y mae yn arwydd ar unwaith nad ydynt mewn cyflwr da. Felly cymerwch haner pegaid neu ychwaneg o ludw, berwch ef yn drwyth; yna gosodwch y moch a fyddont yn goddef felly ar faingc, a golchwch hwy â'r trwyth yma, gan eu crafu âg ysgrafell nes y byddo yr holl grêst wedi dyfod oddiar eu crwyn; yna golchwch hwy â dwfr glân, a lluchiwch ludw drostynt, a bydd i hyny ladd y llau, a pheri i'r moch ddyfod yn eu blaenau yn rhagorol, ac yn gwbl glir oddiwrth bryfaid.

PA FODD I WYBOD PWYSAU MOCHYN WRTH EI FESUR.

Dygwydda weithiau mewn llawer man, na bydd cyfleustra i bwyso mochyn heb fyned ag ef efallai lawer o filldiroedd o ffordd; a gwyddis yn dda mai creadur "anhydyn anhydrin" ydyw y mochyn at ei arwain yn mhell, ac nid gan bawb y bydd cyfleustra i'w gario. Gogyfer â'r rhai hyny, ni a gynygiwn y cyfarwyddiadau canlynol tuag at gael gwybod ei bwysau yn hwylus—dim ond ei fesur yn y cwt. Trwy hyn gellir cael hyny allan, o fewn dim, ac arbedir llawer o drafferth.

Cymerwch linyn a dodwch ef am frest yr anifail, gan sefyll yn union o'r tu ol i'w balfais, a mesurwch ar ddwy