Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NODIADAU CYFFREDINOL
AR
GADW MOCH.

Y MAE trwyn byr, clustiau bychain, coesau byrion, gwrych teneu, cynffon main, bob amser yn dynodi rhywogaeth dda o'r mochyn, ac y mae yn un a ddaw yn ei flaen ac a besga yn rhwydd, ond am foch fel arall y maent hwy yn anhawdd eu cael yn mlaen, ac ni phesgant ychwaith.

Dylai moch a gedwir yn eu cytiau gael ychydig lô neu cinders, yr hyn sydd yn angenrheidiol, er iddynt dreulio eu hymborth yn dda.

Bydd i fochyn a gedwir yn lanwaith o ran ei groen, ddyfod yn mlaen yn llawer gwell, pesgi yn gyflymach, a bwyta llai o ymborth na mochyn a boenir gan bryfaid, ac a fedd groen budr.

Y mae cynhesrwydd yn anhebgorol angenrheidiol er magu neu besgi moch, ac am y rheswm yma y mae yn haws ac yn rhatach eu pesgi yn yr haf nag yn y gauaf.

Dylai moch gael digonedd o ddwfr ffresh bob amser, a da fyddai i lwmp o rock salt fod bob amser o fewn cyrhaedd iddynt.

Gellir arbed llawer iawn wrth roddi ymborth wedi ei ferwi i foch, yn lle ymborth amrwd, megys pytatws, mangolds, cabbaits, &c. Y mae newid eu hymborth hefyd yn meddu effaith dda arnynt.

Y mae blawd buckweed, yn gymaint a bod iddo effeithiau sydd yn cynyrchu cwsg, yn rhagorol at besgi moch, am ei fod yn tueddu i beri iddynt gysgu. Yn wir, dylai mochyn pan yn cael ei besgi, fod naill ai yn bwyta neu yn cysgu yn wastadol.

Wrth besgi porkers, neu foch at facwn, y mae bob amser yn ddymunol gosod dau o honynt gyda'u gilydd;