Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni fydd y llafur ond yr un faint, ac y mae y moch yn ymborthi yn well gyda'u gilydd nag ar eu penau eu hunain. Peidiwch byth a gadael i weddill o'r bwyd aros yn y cafn. Gellir bwydo mochyn yn fynych, ond ni ddylai gael ond yr hyn a fwyty i fyny yn lân a chyfangwbl.

Peidiwch byth a gwerthu mochyn ar haner ei besgi. Y mae llawer iawn llai o gost i besgi mochyn ar yr ail ddeng ugain o'i bwysau nag ar y deng ugain cyntaf.

Wedi i hwch gael ei neillduo at ei phesgi, dylid gadael iddi gymeryd y baedd, am y ceir allan fod beichiogiaid yn meddu effeithiau daionus, trwy ei fod yn tueddu at beri cwsg, a magu brasder.

Ychydig a ddeallir ar y pwysigrwydd o gadw mochyn, a llai na hyny, efallai, a ymarferir ar hyny. Y mae esiamplau aneirif wedi profi, o bryd i bryd, fod moch y cedwir eu crwyn yn lân, trwy eu brwshio a'u golchi yn achlysurol, yn dyfod yn mlaen ac yn pesgi yn llawer cyflymach, ac ar un dair o bedair, ac weithiau ar un ran o dair o fwyd, na phan y cedwir hwy mewn cyflwr budr.

Y mae yn anhebgorol angenrheidiol ychwanegu halen at olchion a bwyd moch; nid yw yn bosibl i unrhyw anifail ddyfod yn ei flaen heb ryw gymaint, yn enwedig pan gauir hwy yn eu cytiau.

Y mae esiamplau lluosog wedi profi y bydd i fochyn besgi mewn agos i haner yr amser ar ymborth wedi ei ferwi, yn hytrach nag ar beth amrwd, heblaw bod llai o lawer o fwyd yn angenrheidiol er cynyrchu yr un pwysau mewn mochyn. Y mae amser yn arian wrth besgi moch, fel yn mhob peth arall.

Dylai perchyll gael eu cyweirio pan yn sugno, yn bythefnos oed; y draul am wneyd hyny ydyw haner coron, pa un bynag ai bach ai mawr fyddo y torllwyth.

Ystyrir fod moch (ac yn wir, pob anifeiliaid) yn difa yn mhob wythnos un ran o dair o'u pwysau mewn ymborth. Nid oes un anifail yn cynyrchu mor lleied o wâst a'r mochyn; tra y mae ŷch yn cynyrchu 42 y cant, nid yw mochyn tew yn cynyrchu ond o 6 i 10 y cant.