Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y ffordd fwyaf parhaus i fodrwyo mochyn ydyw gwneyd twll trwy fadruddyn y trwyn, gan wahanu yr asgwrn oddiwrth arwyneb y trwyn. Dylid gwneyd hyn tra y mae y mochyn yn ieuangc, pryd nad achosa ond ychydig o boen.

Cyfrifir fod gwerth y moch yn Lloegr a Chymru yn fwy na haner can' miliwn o bunnau.

Bydd i hiliogaeth un hwch—a chaniatâu bod yr haner o honynt yn fenywiaid—mewn 10 mlynedd gynyddu hyd 29 o filiynau.

Dylai cafn bwydo mochyn gael ei lanhau bob dydd gyda dwfr glân. Y mae sylwadau manwl wedi profi fod cafn glân yn gwneyd gwahaniaeth o bump i ddeg swllt wrth besgi mochyn.

Y mae yn ofynol rhoddi modrwy yn nhrwyn hwch, er ei hatal rhag codi i fyny waelod ei chwt, neu y borfa ar hyd pa un y caniateir iddi redeg.

Os bydd yn bosibl, bydded i'ch cwt mochyn wynebu y dehau, am fod gwres cynhes yr haul o'r pwysigrwydd mwyaf i foch, hen ac ieuaingc.

Dylai hwch gael ei phesgi yn dair blwydd oed, wedi iddi ddiddyfnu ei phummed torllwyth. Dylai y torllwyth cyntaf gael ei fwrw yn ystod hydref ei blwyddyn gyntaf, a'r pummed yn hydref ei thrydedd flwyddyn. Wrth "hydref" y golygwn fisoedd Awst, Medi, a Hydref.

Nitre a sulphur ydynt y cyffri goreu i foch. Bydd i ddogn achlysurol o'r cyfryw (tri chwarter owns,) wedi ei gymysgu ag ymborth yr hwch, dueddu yn fawr i'w chadw mewn cyflwr iachus, ac yn glir oddiwrth bob afiechyd.

Bydd i hwch fwyta oddeutu 2 can'pwys o wreiddiau bob wythnos yn y gauaf, ac efallai 3 can'pwys o borfa yn yr haf. Deugain tunell o wreiddiau (mangolds) i'r acr o dir a gostiant oddeutu 5s. y dunell i'w tyfu (y mae hyn yn caniatâu £10 ar gyfer rhent a llafur.)

Nid yw yn ddyogel rhoddi symiau mawrion iawn o mangolds i hychod; ychydig cyn iddynt ddyfod a moch, dywedir eu bod yn newynu eu rhai bach.