Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nis gall neb gadw hychod mor rad, na gwneyd cymaint o enill oddiwrthynt, a'r rhai a feddant berllan fechan fel lle iddynt bori yn yr haf, a chlwt o ardd at dyfu mangolds, &c., at eu defnyddio yn y gauaf, yn gystal a bod yn feddiannol ar fuwch, llaeth ysgum yr hon a fyddai yn dra buddiol a maethlawn i'r moch bach.

Pan fyddoch yn bwriadu pesgi hwch at facwn, y mae yn talu yn well bob amser gymeryd un torllwyth o foch o honi yn gyntaf, ac wedi iddynt gael eu diddyfnu, yna pesgwch hi at facwn.

Y mae cig ceffyl wedi ei ferwi, neu yn wir unrhyw gig, yn dra gwerthfawr a maethlawn fel ymborth i godi moch ieuangc, ac y mae i'w gael braidd yn mhobman yn ddigon rhad. Gallech brynu hen geffyl neu fuwch, a fyddo wedi cyfarfod â damwain, neu farw yn ddisymwth, am rywbeth fel pymtheg swllt; felly dyma i chwi o 600 i 700 o bwysi o gig, o'r math mwyaf maethlawn, am oddeutu dimai y pwys. Dylid berwi y cig mewn crochan mawr, nes y byddo yn soup tew, a rhoddi bwcedaid neu ddwy o hono i bob torllwyth o foch, wedi ei gymysgu â bran, neu wreiddiau wedi eu berwi, fel ag i'w dewychu; ac ar y cyfryw ymborth bydd i'r moch besgi yn gyflym, tyfu, a dyfod yn eu blaenau.

Y mae blawd pŷs a ffa hefyd yn ymborth tra rhagorol a maethlawn i foch bach, a'i gymysgu gydag unrhyw olchion salw a ellwch gael, pan na bydd genych gig neu laeth ysgum. Costied a gostio, y mae o'r pwys mwyaf fod i foch bach, pan ddechreuant fwyta o'r cafn, gael ymborth a fyddo yn faethlawn iddynt, fel y gellir eu gwerthu pan yn saith neu wyth wythnos oed, yn y man pellaf. Cofiwch bob amser fod amser yn arian wrth fagu moch, fel yn mhobpeth arall.

Nid yw llaeth ysgum, neu faidd, yn anhebgorol angenrheidiol at fagu moch bach; ond os bydd i'w gael, gellir ei ddefnyddio yn fanteisiol er eu dwyn yn eu blaenau.