Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM LADD MOCH, A CHIWRIO A HALLTU EU CIG

Y mae rhai wedi meddwl nad yw mochyn yn dyoddef dim poen wrth gael ei ladd; ond camgymeriad dybryd yw hyny. Y mae y mochyn druan yn teimlo, ac yn teimlo yn llym hefyd. Buasai yn dda iddo lawer gwaith pe na buasai yn teimlo; pe felly, y fath loesau a arbedasid iddo. Cyn ei farw yn gyffredin, ar ol gollwng ei waed, y mae yn cael ei fwrw i lestriaid o ddwfr berwedig, er mwyn tynu ymaith ei wrych; ac yn mhellach, bydd yn cael ei dynu allan o'r dwfr berwedig, cyn i'w fywyd ymado, ac yn cael tynu allan ei ymysgaroedd yn fyw! Dengys hyn fod yn angenrheidiol ymarfer mwy o dynerwch wrth ladd mochyn, nag a wneir yn gyffredin.

Un dull tra chyffredin yn y wlad o ladd mochyn ydyw rhwymo rhaff am ei ên uchaf, a'i thaflu ar drawst neu nenbren; y mae y rhaff hon yn cael ei thynhau nes peri i'r anifail sefyll ar flaenau ei fysedd ol, a'i drwyn i fyny yn yr awyr. Yna y mae y cigydd yn perlinio o'i flaen, a chan gymeryd cyllell finiog, yn gyntaf efe a eillia ymaith ychydig o'r gwrych o flaen ei wddf; yna trywana ef, ac wedi hyny tyn allan ei gyllell. Daw llyn o waed o hono mewn canlyniad i hyny, yr hwn a ddelir mewn llestri priodol, er mwyn gwneyd pwdin gwaed. Llacêir y rhaff raddau; y mae y mochyn druan yn pendroni, ei lygaid yn glasu, peidia ei ysgrechiadau—syrthia; a byddai farw yn fuan. Ond Och! yn gyffredin y mae y cigydd yn cael tâl am ei waith fel job; y mae arno frys; a chyn bod yr anadl wedi ymadaw o gorph y creadur truan, ïe, cyn iddo ddarfod gruddfan, bwrir ef i'r twb ysgaldian; yna tynir ef allan mewn eiliad, gosodir ef ar fwrdd, a thynir ymaith ei wrych trwy ei grafu â chyllell. Yna tynir allan ei berfedd, a bydd yn dda os bydd y creadur truenus wedi gorphen ei yrfa cyn i hyn gymeryd lle.