Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn hen amseroedd, ymddengys na byddai ein cigyddion mor frysiog, neu yr oeddynt yn fwy trugarog. Mewn hen olion o'r amseroedd gynt, gellir gweled fod penau moch wedi cael eu taro ar asgwrn y talcen yn yr un modd ag y ceir fod penau ychain ac anifeiliaid ereill yn yr un cyfnod. Mor dda fuasai genym pe buasai y drefn hon yn cael ei dylyn gan ein cigyddion diweddar! Pe buasai y mochyn wedi cael ei amddifadu yn gyntaf o'i deimladrwydd trwy ergyd drom ar y talcen, a thrwy hyny wneyd yr ymenydd yn ddideimlad, buasai yn gwbl yn nwylaw y cigydd, a gallasai hwnw wneyd âg ef fel y mynai, a hyny gyda mwy o dynerwch, a chyda mwy o gyflymdra a llai o drafferth.

Ond y mae diwygiad i raddau helaeth wedi cymeryd lle yn ddiweddar yn hyn, yn enwedig yn y trefydd, lle mae yr orchwyliaeth o roddi ergyd drom i'r mochyn ar ei dalcen, cyn tori ei wddf, yn enill tir yn gyflym, a deallwn nad oes un cigydd parchus yn esgeuluso gwneyd hyny. Mewn ardaloedd gwledig, pa fodd bynag, y mae yr hen arferion creulon yn ffynu yn barhaus, a'r dull barbaraidd o daflu y mochyn i ddwfr berwedig, yn cael dal ato o hyd, a hyny yn fwriadol ac er ateb dyben; oblegyd clywais gigydd parchus o'r wlad yn dywedyd yn ddiweddar, "Nid yw mochyn byth yn ysgaldian cystal a phan y mae bywyd ynddo." Camgymeriad mawr ydyw hyn; nid oes eisiau dim ond peidio gadael i'r anifail oeri a myned yn stiff, neu anystwyth.

Pwngc tra phwysig yn nghynyrchiad bacwn da ydyw, fod i'r mochyn gael ei ladd mor gyflym ag y byddo modd, a chyda mor lleied o gyffro ag a fyddo yn bosibl. Dylid ei newynu, heb ganiatâu un math o ymborth iddo am o leiaf bedair awr ar hugain cyn ei ladd; a rhaid cymeryd y gofal mwyaf i'w drywanu yn y wythen fawr, fel y byddo iddo waedu mor gyflym, ac mor rwydd hefyd, ag y byddo yn bosibl.

Y mae Mr. Richard Pick, o Sowerby, yn ddiweddar wedi mabwysiadu y cynllun o saethu moch gyda bwled yn flaenorol iddynt gael eu trywanu a'u gwaedu, yr hyn