Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn rhoddi terfyn ar eu dyoddefiadau ar unwaith; ond dylid bod yn dra gofalus nad elo y bwled i ysgwyddau yr anifail.

Y dull mwyaf cyffredin, a thyner hefyd, o ladd mochyn sydd fel hyn:—Darparir bwrdd, yn lled—ogwyddo ychydig mewn un cyfeiriad; rhoddir dyrnod i'r mochyn ar y talcen gyda gordd bren, yr hyn a'i gwna yn gwbl ddideimlad; yna teflir ef ar y bwrdd, trywanir ei ddwyfron â chyllell, neu yn hytrach yn y man hwnw lle y mae y ddwyfron yn cyfarfod y gwddf. Llifa y gwaed yn rhwydd, a derbynir ef i lestri wedi eu parotôi at y pwrpas hwnw. Yn flaenorol i hyn dylai fod twb, neu ryw lestr mawr arall, wedi ei ddarparu, yr hwn yn awr a lenwir â dwfr berwedig. Rhaid i'r dwfr fod yn ferwedig, ond rhaid ei dymheru, ar ol ei dywallt i'r twb, gydag un ran o bedair o ddwfr oer. Bwrir y mochyn i hwn, a chrafir ymaith ei wrych gyda min cyllell. Y mae y gwrych y dyfod i ffwrdd yn rhwyddach os caiff y mochyn ei ysgaldian cyn iddo stiffio a chwbl oeri, ac oddiar hyn y mae rhai cigyddion wedi coleddu y syniad cyfeiliornus mai gwell ydyw ei ysgaldian tra y mae bywyd ynddo. Wedi hyny crogir yr anifail i fyny, agorir ef, a thynir allan ei berfedd. Torir ymaith y pen, y traed, &c., a rhenir corph y mochyn, gan ei dori i fyny ar bob ochr i asgwrn y cefn. Bydd cyllell gref a gordd bren yn angenrheidiol at y gorchwyl yma, y rhai a atebant y dyben yn well na llif. Dylai y tu fewn i'r mochyn gael ei olchi yn lân gyda dwfr a sponge, er symud ymaith yr oll o'r gwaed.

CIWRIO A HALLTU Y CIG.

Y mae bacwn yn cael ei giwrio mewn lluaws o wahanol ffyrdd. At wasanaeth teulu:—gosodir ef yn gyffredin ar fwrdd, ac yna rhwbir i mewn iddo halen, ac ychydig nitre wedi ei ychwanegu, yn gyntaf ar un ochr, yna ar yr ochr arall, naill ai gyda llaw noeth, neu â math o faneg a wneir yn bwrpasol at halltu. Yna dodir ychydig wellt ar lawr un o'r tai allan, rhoddir y nerob arno, gyda'r croen at i lawr—yna gwellt, yna nerob arall, ac felly yn