Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oli i unrhyw orchwyliaeth o giwrio. Parotôir y bacwn hwn oddiwrth foch wedi eu porthi ar y llaethdy. Dyma y gwir ddirgelwch. Gellir gwneyd yr un sylw am facwn Cumberland hefyd.

Mewn rhai siroedd, blingir y mochyn cyn ei giwrio. Y mae rhyw ychydig mwy o enill i'w gael, wrth gŵrs, oddiwrth yr orchwyliaeth hon; ond y mae y bacwn yn israddol o ran gwerth, gan ei fod yn dueddol i ddyfod yn rusty, yn gystal ag i leihau yn ddirfawr wrth ei ferwi. Defnyddir y crwyn i wneyd cyfrwyau.

Dylai hams a nerobau gael eu hongian bob amser mewn lle sych. Yn wir, byddai yn dda ciwrio yr hams mewn canvas neu lian, megys ag y gwneir gyda'r Westphalian hams.

Anhawdd iawn ydyw cadw bacwn yn nhymor yr haf, neu mewn gwledydd cynhes; ond y mae peiriant wedi ei ddyfeisio yn ddiweddar, am ba un y mae breinteb (patent) wedi ei chael, yr hon a wna gadwraeth cig, o dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol, yn berffaith rwydd. Ond ni ddylai y peiriant yma gael ei ddefnyddio oddigerth pan fyddo angenrheidrwydd yn galw am ei weithrediad, a byth o ddewisiad, pan y gellir mabwysiadu y gorchwylaethau cyffredin.

Y mae medru tynu y gormodedd o halen o'r cig, cyn ei ddefnyddio, yn beth ag sydd wedi cael ei fawr ddymuno o bryd i bryd. Y mae ei fwydo mewn dwfr, at ba un yr ychwanegwyd carbonate of soda, wedi ei gael yn dra defnyddiol; felly hefyd y mae ychwanegiad o'r un sylwedd, neu o galch, at y dwfr yn mha un y byddo wedi ei ferwi, neu newid y dwfr wedi i'r cig gael oddeutu haner ei ferwi. Y mae morwyr yn cael allan fod golchi y cig mewn dwfr hallt yn dra effeithiol; ond gellir cyrhaedd yr amcan yn well o lawer trwy yr orchwyliaeth fferyllaidd syml a ganlyn.

Dodwch y cig mewn dwfr cynhes, ac wedi iddo fod ynddo am rai oriau, ychwanegwch ato gyfran fechan o sulphuric acid. Yn mhen tair neu bedair awr, tynwch ef allan, a golchwch ef ddwywaith neu dair mewn dwfr; at