Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dwfr olaf ychwanegwch gyfran fechan o carbonate of soda. Tynwch y cig allan o'r dwfr hwn, golchwch ef drachefn, a berwch ef at giniaw. Canfyddwch fod yr holl halen braidd wedi ei dynu ymaith yn llwyr, os nad yn gwbl felly; ond na fydded i chwi ryfeddu os bydd lliw y cig wedi tywyllu i raddau; nid yw y gwaethygiad yn cyrhaedd dim yn mhellach na hyny; y mae blâs y cig yn parhau yr un a phan yr halltwyd ef gyntaf, ac y mae mor iachusol a chig ffresh. Dichon fod yn bosibl gwneyd yr orchwyliaeth syml yma yn wasanaethgar mewn mordeithiau hirion; oblegyd ceir fod hir arfer cig wedi ei halltu, heb ddigonedd o lysiau i'w ganlyn, yn cynyrchu llawer o afiechydon.

Cynllun llawer mwy syml ydyw mwydo y bacwn dros nos mewn dwfr oer. Mor gryf ydyw tueddiad halen at ddwfr, fel y mae mwydo y cig mewn dwfr am bedair awr ar hugain, neu hyd yn nod am ddeunaw awr, yn gyffredin yn symud ymaith unrhyw ormododd o flâs halen. Y mae yn ymyryd llai â blâs y cig nag unrhyw gymysgiadau fferyllaidd pa bynag, ac ar y cyfrif yma, yn gystal â'r dull hawdd i'w ddwyn yn mlaen, y mae yn tra rhagori ar bob cynllun arall.

Y mae Mr. J. Hawkins, o Farchnad Portobello, Dublin, yn gwneyd y sylwadau canlynol ar y pwngc o giwrio cig moch, ac yn gymaint a'i fod yn giwriwr o ran ei alwedigaeth, y mae cryn bwys yn yr hyn a ddywed.

Ar ol myned trwy fanylion y weithred o ladd y mochyn —yr hon nid yw yn annhebyg i'r olat, a'r fwyaf trugarog, a nodwyd genym ni (tudal. 41)—y mae yn myned yn mlaen fel y canlyn ar y pwngc o dori i fyny y mochyn a'i halltu:—

"Gosodir y mochyn ar fwrdd cry neu faingc gadarn; yna torir ymaith ei ben yn glòs i'w glustiau; wedi hyny agorir y mochyn i lawr ar hyd y cefn. Defnyddir math o fwyall neu lif at wneyd hyny, a thynir allan yr asgwrn cefn ac esgyrn bonau y cluniau. Yna torir ymaith y traed ol, fel ag i adael coes i'r ham. Wedi hyny torir y coesau blaen wrth gymal y goes, chrafir y cig i fyny