Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiar yr asgwrn, ac oddiar asgwrn y balfais, yr hwn a dynir allan yn gwbl noeth o dan yr ochr. Yna rheder y llif ar hyd yr asenau, fe. ag i'w cracio; ar ol hyny gorweddant yn gwbl fflat. Yna rhenir y mechyn yn wastad i fyny y cefn, a bydd yr ochrau yn barod at eu halltu; yr hams o hyd yn aros yn nglŷn â hwy. Dyma y dull o dori i fyny y mochyn a ymarferir yn swydd Wicklow yn yr Iwerddon.

"Pan y mae yr ochrau yn barod at eu halltu, rhwbier hwy yn dda ar du y croen, a llanwer i fyny y twil a wnaed trwy dynu allan asgwrn y balfais gyda halen. Yna gosoder yr ochrau, pob un ar ei phen ei hun, ar lawr wedi ei fflagio, ac ysgydwer halen drostynt Yn mhen un diwrnod, neu ddau ddiwrned os bydd y tywydd yn oer, rhaid eu halltu drachefn yn yr un modd; ond yn awr gellir rhoddi dwy ochr gyda'u gilydd, a saltpetre wedi ei wneyd yn llwch wedi ei luchio dros bob ochr, yn y cyfartaledd o ddwy owns at bob ochr, os bydd o faintioli arferol bacwn, Yn mhen tridiau neu bedwar rhaid i'r ochrau gael eu newid drachefn, a rhaid rhwbio coesau yr hams, cynhyrfu yr hen halen arnynt, a lluchio ychydig halen ffresh drostynt, a gellir yn awr csod pump neu chwech o ochrau y naill uwchlaw y llall. Gellir gadael yr ochrau fel hyn am wythnos, pan y gellir eu pentyru y naill uwchlaw y llall, hyd ddeg neu ugain o ochrau, os byddwch wedi lladd cynifer â hyny o foch. Gadewch hwy felly am fwy na thair wythnos, nes y byddont wedi dyfod yn galed. Yna gellir eu hystyried fel wedi eu perffeithio, a chadwant am o chwech i wyth mis, neu cyhyd ag y byddoch yn dymuno.

"Pan fyddo arnoch eu heisiau at eu defnyddio, neu at y farchnad, cyfodwch yr ochrau o'r halen, a bydded iddynt gael eu hysgubo a'u glanhau yn dda; tynwch ymaith yr ham, a chrogwch hi i fyny, a sychwch hi â thân mawn. Os bydd arnoch eisiau lliw brown, lluchiwch ychydig o flawd llif pren caled dros y mawn. Os crogir hwy i fyny mewn cegin lle y mae mawn yn cael ei losgi, a gadael iddynt aros yno, ond heb fod yn rhy agos i'r tân, cyn-