Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os na bydd y mochyn ond yn cael ei flino gan ymosodiad ysgafn o'r clafr, a hwnw heb fod o hir barhad, y driniaeth oreu i'w mabwysiadu ydyw yr un a ganlyn:

1. Golchwch y mochyn o'i drwyn i'w gynffon, heb adael un ran o'i gorph heb ei lanhau, gyda sebon meddal a dwfr.

2. Dodwch ef mewn cwt sych a glân, lle y byddo digon o awyr iach, heb, ar yr un pryd, ei amlygu i oerni na thynfa gwynt. Gwnewch iddo wely o wellt glân a sych.

3. Lleihewch ei fwyd, ac na fydded cystal o ran ei ansawdd. Bydded i wreiddiau wedi eu steamio, gyda llaeth enwyn neu olchion o'r llaethdy, gymeryd lle soeg y darllawydd, golchion o'r tŷ, neu unrhyw ymborth a fyddo a thuedd ynddo i boethi neu i beri enyniant yn y mochyn.

4. Bydded iddo ymprydio am bum' neu chwe' awr, ac yna rhoddwch, i fochyn o faint canolig, ddwy owns o Epsom salts mewn cymysg cynhes o fran. Y mae y swm hwn, wrth gŵrs, i gael ei ychwanegu neu ei leihau, yn ol fel y byddo maintioli y mochyn yn galw am hyny. Byddai y swm uchod yn ddigon i fochyn yn pwyso o chwech ugain i wyth ugain. Dylid ychwanegu hwn at oddeutu haner galwyn o gymysg cynhes wedi ei wneyd o fran. Bydd iddo weithio y mochyn yn dyner.

5. Yn mhob pryd o fwyd a roddwch iddo wedi hyny, rhoddwch o

Flour of Sulphur, lonaid llwy fwrdd,
Nitre, gymaint ag a saif ar chwe'cheiniog,

am o dridiau i wythnos, yn ol fel y byddoch yn canfod cyflwr yr afiechyd. Pan welwch fod y crach yn dechreu iachâu, y llynorod yn encilio, a'r briwiau tanllyd yn gwywo, gellwch benderfynu fod y mochyn wedi gwella. Ond cyn i'r canlyniad hyfryd hwnw gymeryd lle, gellwch weled cynydd ymddangosiadol yn yr oll o arwyddion yr afiechyd, megys ymgais olaf yr anhwyldeb cyn rhoddi i ffordd yn gwbl o flaen eich gofal a'ch medrusrwydd.

Y mae, pa fodd bynag, fathau ereill o'r clafr, ag ydynt yn fwy anorchfygol na'r un a nodwyd, ac heb fod yn agos