Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor hawdd i'w hiachâu. Mewn amgylchiadau felly, wedi i'r driniaeth uchod fod ar waith am bedwar diwrnod ar ddeg, ac heb i wellad gymeryd lle, parotowch y cymysg canlynol:

Cymerwch o Train oil, un peint,
Oil of tar, dau ddram,
Spirits of turpentine, dau ddram,
Naphtha' un dram,

gyda Flour of sulphur, gymaint ag a'i gwna yn bâst tew. Wedi golchi yr anifail yn gyntaf, rhwbiwch ef â'r cymysg hwn, ac na fydded i un llecyn o'r croen ddiangc rhagoch. Cadwch y mochyn yn sych a chynhes ar ol y cymhwysiad yma, a gadewch iddo aros ar ei groen am dridiau llawn. Ar y pedwerydd dydd, golchwch ef unwaith yn rhagor gyda sebon meddal, gan ychwanegu ychydig o soda at y dwfr. Sychwch yr anifail yn dda ar ol hyny, a gadewch ef yn llonydd, heb wneyd dim ond newid ei wely am ddiwrnod neu ddau. Parhewch i roddi y sulphur a'r nitre fel o'r blaen. Nid wyf yn gwybod am un achos o glafr, pa mor ystyfnig bynag y gallai tod, na byddai iddo, yn gynt neu yn hwyrach, roddi i ffordd o flaen y driniaeth hon.

Ar ol i'r mochyn wella, gwyngalchwch ei gwt; purwch ef oddiwrth bob arogl annymunol trwy roddi ychydig chloride of lime mewn cwpan, neu ryw lestr arall, a thywallt ychydig vitriol arno. Os na bydd vitriol wrth law, bydd i ddwfr berwedig ateb y dyben agos yn llawn cystal.

Yn olaf ar y pen hwn: bydded i chwi gofio y drwbl a gawsoch wrth iachâu eich mochyn claf, a thrwy sylw priodol at lanweithdra mewn ymborth a chwt, ynghyda phorthi eich moch yn rheolaidd, cymerwch ofal na ddygwydda y clafr yn eu plith rhagllaw. Cofiwch hefyd, fod cymhwysiadau oddiwrth arian byw i gael eu gochel hyd ag y gellir; ond uwchlaw y cwbl, gochelwch ddefnyddio enaint wedi ei wneyd o ddail crafange yr arth, corrosive sublimate, neu ddwfr tobacco; neu, yn fyr, unrhyw sylweddau gwenwynig pa bynag. Ychydig iawn o welliadau a gynyrchwyd gan y cyfryw feddyginiaethau, ond