Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae lluaws mawr o farwolaethau wedi eu cynyrchu trwy eu defnyddio.

AGENAU NEU HOLLTAU YN NGHRWYN MOCH.

Weithiau bydd i agenau neu holltau ymddangos yn nghroen y mochyn, yn enwedig o amgylch gwraidd ei glustiau a'i gynffon, ac ar hyd ei ochrau. Ni ddylid camgymeryd y pethau hyn am y clafr, yn gymaint nad ydynt byth yn tarddu oddiwrth ddim ond amlygiad i eithafion gwres ac oerni, pan nad yw yr anifail druan yn alluog i gymeryd mantais ar yr achles ag y buasai greddf, yn ei gyflwr naturiol, yn ei dueddu i'w fabwysiadu. Y maent yn dra phoenus yn mhoethder haf, os bydd y mochyn yn agored i belydrau poethion yr haul am hir amser, heb fod ganddo forfa neu lyn i faddio ei aelodau crasedig a hanerrhostiedig. Os bydd ei berchenog yn awyddus i'w gynorthwyo, wedi i esgeulustra yn gyntaf wneyd ei gwaith, bydded iddo eneinnio y manau agenog ddwywaith neu dair yn y dydd gyda thar a lard wedi eu cymysgu yn dda gyda'u gilydd.

AM RYDDNI MEWN MOCH.

Nid oes angen manylu yma ar yr arwyddion, oblegyd hwy sydd yn cyfansoddi yr afiechyd. Cyn cynyg atal yr arllwysiad yr hwn pe caniateid iddo barhau yn ddiymatal, a ddiddymai nerth yr anifail yn fuan, ac yn ol pob tebygolrwydd a derfynai yn angeuol iddo—bydded i chwi yn gyntaf fynu sicrwydd o berthynas i ansawdd y bwyd a gafodd yr anifail yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau o'r fath, cewch allan mai dyma lle y mae gwreiddyn y drwg; ac os ceir hyny allan yn nechreuad yr afiechyd, byddai dim ond newid yr ymborth, megys ŷd, blawd, &c., yn ddigon i beri gwellhad. Ond os bydd genych le i feddwl fod surni yn bresenol, wedi ei gynyrchu yn ol tebygolrwydd, gan ymborthi ar laswellt drwgsawrus, rhoddwch dipyn o chalk (sialc) yn ei fwyd, neu blisg wyau wedi eu malu, gydag oddeutu haner dram o rhubarb wedi ei bowdro; y ddogn, wrth gŵrs, yn amrywio yn ol maintioli y mochyn. Yn adeg mês, a lle y byddont yn hawdd