Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cael, bydd iddynt hwy eu hunain beri gwellhad. Tra byddo yr anifail yn llafurio dan yr afiechyd yma, y mae llety sych yn anhebgorol angenrheidiol iddo; a dylid bod yn ddyfal i sicrhau hyny, yn gystal a glanweithdra.

AM Y COLIC AR FOCH.

Nid yw hwn yn afiechyd anghyffredin ar foch, a chynyrchir ef yn fynych trwy fwyta gormod o ymborth sur. Arddangosir ef gan boenan mawrion a thost ar adegau; ymrolia y mochyn hyd lawr, gan gicio ei fol; yna cyfyd, a cherdda o gwmpas am ychydig funudau, hyd nes y daw ail ymosodiad. At ei wella,

Cymerwch o Peppermint water, haner peint,
Tincture of opium, deugain dyferyn.

Rhoddwch hwn iddo yn ystod y munudau y byddo yn dawel. Dylai yr anifail gael ei gadw yn gynhes, a rhowch ymborth iddo (llaeth newydd yn gynhes) nes y byddo wedi llwyr wella.

AM Y PLA MEWN MOCH.

Credir fod yr afiechyd yma yn heintus, neu yn drosglwyddadwy o'r naill i'r llall; ac am hyny dylai pob moch a fyddont yn dyoddef o dano gael eu gwahanu yn uniongyrchol ac heb golli dim amser, oddiwrth y gweddill o'r gyr, a'u rhoddi mewn rhyw gwt lle na ddelo ond y rhai afiach. Yn yr achos hwn, yn gystal ag mewn amgylchiadau ereill pan fyddo moch yn sâl, dylent gael gwellt glân. Pan fyddo y pla wedi ymosod arnynt fel hyn, rhoddwch iddynt oddeutu peint o raisin wine, neu ynte win gwyn da, yn mha un y cafodd rhai o wreiddiau polpody y dderwen eu berwi, ac yn mha un y byddo deg neu ddeuddeg o rawn yr eiddew wedi eu malu, a’u trwytho. Bydd i'r cyfferi hyn beri iddynt ysgothi, a thrwy gryfhau yr ystumog, fwrw allan yr afiechyd.

Os bydd i fochyn arall, ar ol y cyntaf, gael ei gymeryd gan yr un salwch, bydded i'r cwt gael ei lanhau yn dda oddiwrth y gwellt a'r tail a adawsid yno gan y mochyn