Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM AFIECHYD YN YR YSGYFAINT.

Y mae moch, gan eu bod o natur boeth, yn agored i afiechyd a elwir syched, neu yr ysgyfaint, yn ol rhai ffermwyr. Tardda yr anhwyldeb yma yn gwbl o ddiffyg digonedd o ddwfr; o ganlyniad, nid ydynt yn agored iddo ond yn sychder haf, neu pan fyddo dwfr yn brin. Y mae yn fynych yn taflu cryn gostau ar y ffermwr, pan y mae moch wedi eu gosod heibio at besgi, a phan na chymerir gofal priodol i roddi iddynt ddigon o ddwfr, oblegyd yna y maent yn sicr o nychu, a cholli eu cig. Er atal hyn, byddwch yn ofalus i roddi iddynt ddigonedd o ddwfr ffres, a hyny yn fynych hefyd; canys y mae y diffyg o hono yn dwyn arnynt wres gormodol yn yr afu, yr hyn a gynyrcha yr anhwyldeb hwn. Er ei feddyginiaethu tyllwch ddwy glust y moch, a rhoddwch yn mhob twll ddeilen a bonyn o'r llysiau a alwn ni y Cymry yn belydr du, ond a adnabyddir gan y Saeson wrth yr enw black helebore.

AM Y GERI, NEU Y BUSTL, MEWN MOCH.

Y mae yr anhwyldeb yma yn gwneyd ei ymddangosiad trwy chwydd o dan y bochgernau, ac nid yw byth yn dygwydd ond o herwydd diffyg chwant at fwyd, a phryd y byddo yr ystumog yn rhy oer i dreulio yr ymborth,—o leiaf felly y dywed rhai awduron. Y mae yn gyffredin yn ymaflyd yn y moch hyny a gaethiwir mewn cytiau budron, ac a esgeulusir neu a newynir gyda golwg ar ymborth. Rhoddwch iddynt sug neu nodd dail cabaits, gyda saffron wedi ei gymysgu â mêl a dwfr—oddeutu peint o hono, a bydd yn sicr o beri iachâd iddynt.

AM Y CHWANTACHGLWYF MEWN MOCH.

Y mae ein cymydogion y Saeson yn galw yr anhwyldeb yma wrth yr enw pox, am y tybiant ei fod yn tarddu oddiar duedd chwantachol yn yr anifail, yr hyn a bair i'w waed gael ei lygru. Ond pa un bynag am hyny, y mae i'w ganfod yn fwy hynod yn y moch hyny na fyddont yn cael digonedd o ymborth, ac yn fwyaf neillduol yn y rhai