Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag ydynt wedi bod yn ddiffygiol o ddwfr. Y mae yn gwneyd ei ymddangosiad mewn lluaws o friwiau ar gorph y creadur; ac ni fydd i na baedd na hwch ddyfod yn eu blaenau tra y byddo yr afiechyd hwn arnynt, er i chwi eu bwydo â'r math goreu o ymborth. Y feddyginiaeth ar eu cyfer ydyw, rhoddi iddynt ddwy lwyaid fawr o driagl, mewn dwfr a fyddo wedi ei led-feluso â mêl—oddeutu peint ar y pryd; ac eneiniwch y briwiau â flour of brimstone wedi ei gymysgu yn dda â lard mochyn; at hyny gellid ychwanegu ychydig bach o lwch tobacco. Tra y byddwch yn rhoddi iddynt y cyfferi hyn, dylai y moch afiachus gael eu cadw mewn cwt, ac ar wahan i'r gweddill o'r gŷr, nes y byddont wedi ymiachâu.

AM CHWYDD O DAN Y GWDDF.

Y mae yr afiechyd yma yn ymddangos rywbeth yn debyg i chwydd yn y chwarenau, ac y mae rhai ffermwyr yn ei alw yn "chwarenau" mewn moch. Y feddyginiaeth fwyaf cyflym ato ydyw agor y manau a fyddont wedi chwyddo, pan y maent yn gyflawn aeddfed i hyny, gyda phin—gyllell (pen-knife,) neu fflaim (lancet,) gan gymeryd gofal na byddo y mymryn lleiaf o rŵd ar y naill na'r llall, a daw allan o'r archoll swm mawr o sylwedd drewllyd o liw melyn neu wyrdd. Wedi hyny golchwch y briw gyda golch, ond gofalwch am iddo fod yn ffrès, ac yna trinwch y briw gyda lard mochyn.

Dyna ydyw y prif anhwylderau sydd yn blino mochyn y wlad hon, ac ond dal sylw ar yr arwyddion, a dylyn y cynghorion a nodwyd yn flaenorol, gall pob dyn feddyginiaethu ei fochyn heb ymgynghori â meddyg anifeiliaid, yr hyn a arbeda lawer o draul a choll amser.


H. HUMPHREYS, ARGRAFFYDD, CAERNARFON.