Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holl wlad cyn dyfodiad y diluw Mahometanaidd yn y seithfed ganrif. Er wedi colli eu hiaith, y mae tua miliwn o'r cyff Coptaidd yn aros yn yr Aifft hyd heddyw, a hwy ydyw'r bobl fwyaf dysgedig; ac y mae'r mwyafrif o honynt yn Gristionogion. Condemniwyd hwynt gan Gyngor Eglwysig Chalcedon yn 451 am ddal fod y ddwy natur yng Nghrist wedi eu cymysgu.

Gelwir hwynt yn Eutychiaid ac yn Unnaturiaid. At yr hyn oedd yn yr eithaf oddiwrth eu daliadau hwy y cyfeiria Ann Griffiths pan ddywed (yn ol coflyfr John Hughes, Pont Robert),—

"Dwy natur mewn un person,
Yn anwahanol mwy—
Mewn purdeb heb gymysgu
Yn berffaith hollol drwy."

Ar y darnau o gerrig a llestri ceir llawer adnod o'r Beibl, llawer o lythyrau eglwysig, cyfamodau, darnau o bregethau. Cymerwn nifer o honynt. Cawn un ag arni ran o'r adnod sydd yn weddi i ganlynwyr agos yr Arglwydd ynghyd ag aralleriad,—

"Crea galon lân ynnof, O yr hwn wyt yn caru dyn, ac achub fi."