Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un arall a ddwg ran o gyffes ffydd rhyw sant—pur hunan-gyfiawn,—

O Cyfaddefwn y Drindod sydd mewn Undod, sef yw hynny, y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glan, tri pherson (hypostaseis) o ba rai un a gymerodd gnawd er ein hiachawdwriaeth, sef yw hynny, y Mab. Er hynny y mae pob un o'r Personau yn beth ar wahan, nid yn y lleill. Y mae hyn mewn gwirionedd felly. Un benaduriaeth (monarchia), un lywodraeth dros bob peth, un gogoniant. Ond yr ydym yn cysylltu gweithredoedd da a'r fawlwers hon er caffael yr addewidion."

Sonia'r Difinydd am "garreg wen" ac enw newydd (Dat. ii. 17); ac yr oedd y ffigiwr yn adnabyddus i'w ddarllenwyr ef pa un bynnag ai Groegiaid ai Rhufeiniaid ai Iddewon fyddent. Yn Rhufain, byddai cyflwyno carreg wen gan y naill gyfaill i'r llall yn arwydd rhwng y ddau y byddai iddynt hwy a'u teuluoedd ar eu hol gael mwynhau lletygarwch dan gronglwydydd. eu gilydd, a rhaid cofio fod lletygarwch yn eu byd hwy yn golygu llawer iawn mwy na gwely a bwyd. Byddai awdurdodau'r ddinas yn cyflwyno carreg wen i dlodion anghenog y ddinas, a byddent hwythau. yn gallu cael digonedd o yd drwy'r arwydd hon o ystorfeydd y ddinas. Dyma'r tocyn.