Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chwiliwyd ei logellau. Fel y cyfeiriwyd, cyhoeddwyd gwawl-arluniau[1] o'r gyfrol gan Pius IX., a chofiwn yn dda am y Prifathraw Thomas Charles Edwards yn ein hysbysu iddo bwrcasu copi o hono i Lyfrgell Coleg y Bala. Y mae ol amryw ddwylaw ar y llawysgrif hon. Bu rhywun, yn fuan ar ol i'r ysgrifennydd gwreiddiol ei rhoddi o'i law, yn gwneuthur cywiriadau, ac ymhen rhai canrifoedd aeth rhywun ati i ysgrifennu drosti o ben i ben, dan yr argraff fod yr inc yn diflannu; eithr nid oedd raid iddo, gan fod yr hen mor berffaith a'r newydd.

Y nesaf mewn dyddordeb yw yr ysgrif Sinaitaidd. Gelwir hi felly am mai ym. Mynachlog y Santes Catrin, ar odre mynydd Sinai, y darganfuwyd hi. Pan oedd ar ymweliad â'r fangre ramantus lle y bu mynydd yn crynnu wrth dystio i gyfiawnder yr Hwn a roddodd ddeddf oddiarno, gwelodd Dr. Tischendorf lawer o hen ysgrifau; a dywedwyd wrtho fod llawer o rai tebyg wedi eu defnyddio fel tanwydd heb fod neb yn y sefydliad yn gwybod dim am eu gwerth. Rhoddwyd iddo ddeugain tudalen o'r croen, ar

yr hwn vr oedd yn ysgrifenedig gyf-

  1. ffotograffau