ieithiad y Deg a Thriugain o'r Hen Destament, a dymunol iawn yw gwel- ed pawb sydd yn derbyn caredigrwydd yn gwerthfawrogi hynny yn briodol; eithr yn hanes Dr. Tischendorf, gymaint oedd y llawenydd a ddangosodd fel y creodd hynny ddrwgdybiaeth ym meddwl yr hen fynachod. Gwelsant werth yr ysgrif ar foddlonrwydd wyneb yr ysgolhaig; ac ataliasant eu llaw, gan wrthod rhoddi ychwaneg iddo. Dychwelodd Dr. Tischendorf a deffrodd ei ddarganfyddiad ddyddordeb dwfn a disgwyliad am gael o hyd i gopiau ereill.
Yn 1859, cawn ef yr ail waith yn y fynachlog. Y tro hwn y mae yno fel negesydd dros Nicholas, Ymerawdwr Rwsia. Yr oedd gorchymyn y teyrn hwn, i sicrhau unrhyw beth o ddyddordeb, ganddo i'w gyflawni, ac yr oedd cyllid yr orsedd ganddo at ei law er sicrhau hynny. Siomedig fu'r ymweliad hwn am ysbaid, ac yr oedd Tischendorf ar droi adref heb yr un trysor pan ofynnwyd iddo ymweled â chell un o'r mynachod, yr hwn oedd oruchwyliwr y sefydliad. Yn yr ymddiddan a ddilynodd, dywedai'r mynach fod ganddo gopi o'r Septuagint, Cyfieithiad y Deg a Thriugain, a dangosodd ef. Er ei syn-