dod, gwelodd Tischendorf fod yn ei law gopi o rannau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd yn gyflawn, ynghyda rhai llyfrau o'r Apocrypha. Dyfynna Dr. Paterson Smith eiriau y gŵr mawr ei hun. Mawr oedd ei foddhad, a gofynnodd am ganiatad i edrych dros y copi yn ei ystafell wely. "Ac yno wrthyf fy hun rhoddais ffordd i lesmair o orfoledd. Gwyddwn fy mod yn dal yn fy llaw un o'r trysorau Beiblaidd mwyaf gwerthfawr mewn bod—ysgrif o ran ei hoed a'i phwysigrwydd a ragorai ar bob un a welais ar ol ugain mlynedd o astudiaeth o'r mater." Trwy gymorth yr ymerawdwr, prynwyd yr ysgrif, ac y mae heddyw yn un o ryfeddodau'r Llyfrgell yn St. Petersburg—lle mae'r Eglwys Roeg neu Ddwyreiniol yn grefydd y wladwriaeth. Y mae, felly, gan bob un o brif ganghennau'r Eglwys Gristionogol, gopi gwerthawr o'r Ysgrythyrau.
Cyflwynodd Theodore Beza ysgrif o'r Efengylau, yr Actau a'r Epistolau cyffredinol, mewn Groeg a Lladin, i Brifysgol Caergrawnt yn 1581. Rhoddodd yr Archesgob Laud gopi, yn cynnwys y rhan fwvaf o'r Actau, mewn Groeg a Lladin, i Brifysgol Rhydychen.