Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un o'r rhai rhyfeddaf yw'r un a adweinir fel Codex Ephraem. Tad parchus yn eglwysi Gristionogol Syria oedd yr Ephraem hwn, ac efe oedd un o amddiffynwyr cadarnaf y ffydd, ac efe hefyd oedd per ganiedydd yr Eglwys yn ei ddydd-tua chanol y bedwaredd ganrif. Yr oedd mor boblogaidd fel y cafodd ei weithiau eu copio a'u darllen ym mhen wyth canrif wedi iddo huno. Yn y ddeuddegfed ganrif cawn ysgrifennydd yn cymeryd hen femrwn, ac yn golchí ymaith yr ysgrifen er mwyn gosod arno gyfieithiad o waith Ephraem y Syriad; ond nid oedd sebon y golchydd wedi peri i'r inc lwyr ddiflannu. Ymhen pum canrif, yn yr ail ar bymtheg, gwelwyd yr hen ysgrif o dan y newydd; a phan ddarllenwyd hi cafwyd mai copi o'r ysgrythyrau mewn Groeg ydoedd. Ym Mharis y mae'r ysgrif hon.

Dyma rai o'r ysgrifau pwysicaf o'r Beibl. Y mae y rhain y gwerthfawrocaf ymysg miloedd o ysgrifau am eu bod wedi rhedeg o'r canrifoedd agosaf i ffynhonell fawr y datguddiad dwyfol i ddyn. Y mae rhai o'r cyfieithiadau yn werthfawr iawn. Dyna Gyfieithiad y Deg a Thriugain, er engraifft. Cafodd yr enw oddi-