Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth y traddodiad ddarfod i Ptolemy II., brenin yr Aifft, anfon at yr archoffeiriad Iddewig yn Jerusalem yn deisyfu arno ddanfon dehonglwyr cyfarwydd mewn Hebraeg a Groeg i gyfieithu yr ysgrythyrau i iaith yr Iddewon oedd yn lliosog yn Alexandria a phrif drefydd yr Aifft. Anfonwyd deuddeg a thrigain; a gorffenasant eu gwaith mewn deuddeg o thrigain o ddyddiau. Nid oes lle i gredu fod y traddodiad yn gywir, er fod Josephus yn ei dderbyn; eithr y mae enw'r cyfieithiad wedi ei gymeryd oddiwrth y traddodiad, ac y mae hwn wedi glynu ar hyd y canrifoedd. Hwn oedd Beibl cyffredin Palestina yn nyddiau Crist a'r apostolion, ac o hono y dyfynnir o'r Hen Destament y rhan amlaf. Dengys fod rhagor rhwng seren a seren ymysg y cyfieithwyr, a chymerwyd amser maith i ddwyn y gwaith i ben, a bernir fod y cyfieithiad wedi ei orffen tua 150 cyn Crist. Casglodd Origen (185—254) nifer o gyfieithiadau at eu gilydd, a gosododd chwe cholofn ar yr un tudalen—sef (1) yr Hebraeg; (2) yr Hebraeg mewn llythrennau Groegaidd; (3) Cyfieithiad Aquila; (4) Cyfieithiad Symmachus; (5) Cyfieithiad y LXX.; a (6) Cyfieithiad Theodot-