Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion. Gresyn i hwn fynd ar goll. Nid oes dim yn aros ond cyfeiriadau ato, ac ychydig ddyfniadau o hono. Adnabyddir ef fel Hexapla Origen. Bu llawer yn diwygio Cyfieithiad y Deg a Thrigain, megis. Theodotion o Ephesus, tua 160.

Yr oedd llawer o Iddewon ym Mabilon, ac er eu mwyn hwy cawn ddehongliadau o'r Hen Destament wedi eu parotoi yn ystod y ganrif Gristionogol gyntaf. Nid cyfieithiadau mo honynt. Yn hytrach, y maent yn cynnwys esboniad a chyfieithiad. Y maent yn y Galdeaeg, ac adnabyddir hwynt fel Targums. Y ddau bwysicaf o honynt yw y rhai a adnabyddir fel Targum Onkelos, cyfaill Gamaliel, a Thargum Jonathan ben Uziel. Cyfeirir at y naill fel Targum Babilon, a'r llall fel Targum Jerusalem gan rai.

Cyfieithiad pwysig i'r Syriaeg yw y Peshito. Sonir am dano gan Ephraem y Syriad, yr hwn a fu farw yn 373. Y mae yn llawer hŷn na hynny, oherwydd y mae Ephraem yn esbonio rhai geiriau ynddo oedd erbyn ei ddydd ef yn anadnabyddus i'w bobl, a chymer gair gryn amser i fyned yn anealledig. Y mae'n cynnwys yr Hen Destament a'r Newydd, a pherthyn yn ol y farn gyffredin i'r ail ganrif.