Y Vulgate, cyfieithiad Jerome (340—420) i'r Lladin, yw yr un a ddefnyddiwyd fwyaf gan yr Eglwys. Yr oedd efe yn ysgrifennydd i'r Pab Damasus; a gorchmynnwyd iddo gan ei feistr barotoi cyfieithiad a fyddai yn gywirach na'r hen. a wnaethpwyd yn Carthage. Yn 1546, y mae Cyngor Trent yn cyhoeddi gwaith Jerome fel cyfieithiad awdurdodedig yr Eglwys Rufeinig, a'r cyfieithiad diwygiedig a gyhoeddwyd yn 1598 yw Beibl y Pabydd heddyw. Yr ysgrif werthfawrocaf a ddarganfuwyd yn ddiweddar ydyw llawysgrif W, sef, y Washington. Cynhwysa y pedair Efengyl, a rhoddir hwynt yn y drefn ganlynol,—Mathew, Ioan, Luc, a Marc; ac y mae'n ysgrifenedig ar 374 o dudalennau. Ym meddiant Arab a fasnachai yn Gizeh, ger Cairo, yn yr Aifft, y cafwyd y trysor, a phrynwyd ef gan Americanwr—Mr. Charles L. Freer, o Detroit, yn nhalaeth Michigan; ac ar y cyntaf y Freer Codex y galwyd ef. Nis gwyddom o ba le y daeth; eithr dywed y Proff. H. A. Saunders o Michigan mai tebyg yw iddo ddod o Fonachlog y Gwinllanydd, gerllaw y Trydydd Peiramid—yn ymyl Cairo. Ali oedd enw'r Arab a'i
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/119
Gwedd