Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwerthodd, ac ar Rhagfyr 19eg, 1906, y bu'r ymdrafodaeth.

Y mae yn perthyn i'r bumed ganrif, ac felly o werth mawr. Gosodir ef i'w gadw yn y Smithsonian Institution, yn Washington. Croen defaid a geifr yw ei ddefnydd; ac y mae arno ddarluniau bychain (miniatures) o'r Efengylwyr.

Rhaid gorffen yn y fan yma. Temtir ni i fyned ar ol llawer o lenyddiaeth sydd y tu allan i ganon yr ysgrythyr, ond ymataliwn heddyw; ac yr ydym yn gadael y trysorau ar groen a ddaeth o'r Dwyrain gyda'r trysor pennaf o honynt i gyd-y Trysor a roddodd werth ar bob un arall.