Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII. CENEDL, GWLEDYDD, DINASOEDD, A PHLASDY.

CYN sychu'r ysgrifell carwn godi cwr y llen ar dri neu bedwar o gyfeiriadau ereill.

Tua'r flwyddyn 1879 gwelwyd fod cenedl yr Hethiaid yn bwysicach o lawer nag yr ystyrrid hi gan haneswyr ac esbonwyr yn gyffredin; ac i Dr. A. H. Sayce y perthyn yr anrhydedd i raddau mwy na neb arall o'i dwyn i sylw Prif ddinasoedd meibion Heth oedd Cades ar yr afon Orontes a Carchemish ar lan yr Euphrates. Ceir cyfeiriadau aml atynt yn yr Hen Destament. Ganddynt hwy y cafodd Abraham le bedd ym Machpelah, a dywedir yn Genesis xxiii, eu bod yn trigo yn Hebron; ac ymddengys yn awr, ar ol i lawer o olion eu hanes mewn arysgrifau yng ngwahanol rannau'r wlad ddyfod i'r amlwg, nad oedd y bobl a werthodd y maes a'r ogof a phob pren ar a oedd yn y maes yn amgen na threfedigaeth. Yr oedd y genedl yn un gref a lliosog; a