Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

changen fechan o bren mawr oedd perchenogion Machpelah.

Ymgyfamododd Rameses II. (1300 cyn Crist) a'r Hethiaid, a gosodwyd y cytundeb dan gadwraeth duwiau'r Aifft a Heth; ac yn ol y telerau yr oedd Canan i fod yn eiddo'r Aifft a Syria yn eiddo iddynt hwy. Yn ol llechau Tell Eb Amarna yr oeddynt yn bygwth taleithiau gogledd-orllewin Syria. Yr oeddynt yn ddigon cryf i rwystro Tiglath Pileser I., brenin Assyria, i groesi'r Euphrates, ond yn 717 cyn Crist gorchfygwyd hwynt gan Sargon, a gosodwyd tywysog Syriaidd i lywodraethu o Carchemish.

Y mae Dr. A. H. Sayce yn awdurdod ar eu hanes, ac y mae gan haneswyr Beiblaidd syniad eglurach am ystyr y cyfeiriadau atynt yn llyfrau'r Barnwyr a'r Brenhinoedd a mannau ereill drwy ei lafur ef. Gwlad hynod yw Arabia. Y mae perthynas agos rhwng yr Iddew a'r Arab; oherwydd cawn fod deuddeng mab Ismael yn eu cestyll " yn preswylio o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ai di i Assyria." Yr anialwch tywodlyd sydd yng ngogledd Arabia oedd Hafilah; a bernir fod tair o haenau i'w gweled ym mhoblogaeth y wlad, ac mai