Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trigolion cyntaf Arabia oedd teulu Cus fab Cham (Gen. x. 7). Yr ail oedd tylwyth Sem (Gen. x. 21-29); ac y mae teulu Ismael a phlant Ceturah yn dod yno'n olaf.

Yn Arabia y mae Ophir, y lle y dygodd y Phoeniciaid aur o hono i lanw coffrau Solomon. Oddiyno y daeth brenhines. Seba i brofi'r brenin â chwestiynau caled; yr oedd hi yn perthyn o bell iddo. Yr oeddynt eu dau yn blant i Abraham. Dyma lle y trigai Elihu, yr hwn yr enynnodd ei ddigofaint yn erbyn Job (xxxii.); ac oddiyno y daeth y Sabeaid a'r Caldeaid a ruthrasant ar lanciau a chamelod y patriarch o Us; ac yno yr oedd Midianile bu Moses yn gweled y berth yn llosgi ac yn clywed geiriau Duw yn ei alw.

Gwlad ddyddorol yw hon i'r cloddiwr, ac y mae llawer o deithwyr wedi ei thramwyo, ac fel y rhai mwyaf adnabyddus gallem enwi Doughty, Burton, Huber, Langer,, Glaser, Halevy, a Blunt. Y mae'r rhai hyn wedi darganfod llawer of gerfysgrifau sydd o ddyddordeb; ac yn Assyria ceir llawer o gyfeiriadau at ymgyrchoedd yn erbyn Arabia, ac y mae'r ysgrifau a gafwyd yn Arabia yn rhoddi