Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwau llawer o frenhinoedd, ac yn dangos. bywyd y bobl yn y gwahanol gyfnodau.

Tybir yn gyffredin mai lwythau crwydrol fel y patriarchiaid oeddynt, yn byw mewn pebyll, ac yn newid eu meusydd. pan ddarfyddai'r borfa; ond yr oedd y Sabeaid a'r Minaeaid yn adeiladu amddiffynfeydd a themlau urddasol. Ceir llawer hefyd o hanes crefydd y wlad; eithr nid yw darganfyddiad eto ond yn ei febyd yn y wlad hon sydd heddyw yn gartref i Fahometaniaeth. Cyfeiria Dr. Frederick Jones Bliss ("The Development of Palestine Exploration ") at amryw gofnodion. o ymweliadau â gwlad Canan. Tua 1966 c.c. (yn o debyg) y mae Sinuhit—mab i Amenemhat I., un o frenhinoedd yr Aifft, yn ffoi o flaen yr hwn a gymerodd yr orsedd ar ol ei dad i wlad oedd yn gysegredig i rai a gawsant fyw yn Gosen mewn hanner canrif ar ol hynny. Gadawodd y gwr ar ei ol ramant ar bapurfrwyn rydd ddarlun o fywyd Canan yn oes y patriarchiaid. Yr oedd y wlad yn gyfoethog o ffigys a gwinwydd—o olewydd ac yd—o win a mêl—yr oedd gyrroedd o wartheg a lluoedd o adar mewn digonedd mawr.

Ar furiau teml y duw Amen, oddiar flynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar