Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddeg cyn Crist, ceir cofnodiad o bedwar ymgyrch ar ddeg yn Syria a Phalestina. Rhydd yr hanes restr o drefydd, a thywysogion, a'r ysbail a gymerwyd.

Yn 1070 c.c. danfonodd Krikhor—un o offeiriaid frenhinoedd yr Aifft Uchafwas o'r enw Wen Amen i brynu coed. iddo yng Nghanan. Glaniodd yn ymyl Carmel, a chan iddo gyfarfod â lladron methodd symud at ben ei siwrne yn Gebal am naw diwrnod. Ymosododd ar lwyth of bobl a ddrwgdybiai o fod mewn cyfamod â'r lladron, a chymerodd long a berthynai iddynt. Bu y gwas yn y wlad am tua hanner blwyddyn, ac y mae yn y llythyr lawer o bethau rydd oleu ar Ganan cyn dyddiau Samuel.

Yn ddiweddar darganfuwyd plasdy brenhinoedd Israel yn adfeilion dinas Samaria, gan gwmní a gloddiant dan nawdd Prifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau; ac y mae'r lle yn bwysig, am mai yn y plas hwn y bu Ahab a Jezebel yn trigiannu, ac am fod Amos ac ereill yn cyfeirio ato.

Gwyddom i deyrnas Solomon, wedi marw o homo ef, ymrannu yn ddwy—yn Judah, y deyrnas a gynhwysai Benjamin a Judah, ac yn Israel a gynhwysai y deg llwyth.