Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ystyrrid dinas Samaria fel y cawn hi yn chwareu rhan ym mhob cyflafan a gyfarfu gwlad Canan. Cawn Salmaneser, Sargon, Alexander Fawr, Hyrcanus, Herod Fawr, a'r Croesgadwyr yma yn nyddiau bri pob un o'r rhai hyn.

Ymddengys mai ty y brenin oedd yr adeilad mwyaf gorwych yn y ddinas. Y mae Amos, y bugail a chasglydd ffigys gwylltion, yn cyfeirio ato. Wedi galw Asdod o'r Aifft i fod yn dystion o'r dinistr y mae'r Arglwydd ar gyflawni ar Samaria. cyfeiria at yr hyn sydd yn aros y lle,—"Tarawaf y gaeafdy a'r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a hefyd diben ar y teiau mawrion" (iii. 15). Brad-fwriadodd Pecah mab Remaliah yn erbyn Pecahiah y brenin nad oedd (fel ereill) wedi troi oddiwrth bechodau Jereboam mab Nebat, ac yng nghastell y brenhindy y tarawyd ac y lladdwyd y teyrn. Yma yn ddiau. y lladdwyd y deg a thrugain o feibion Ahab, ac yma y bu Herod Fawr yn byw am ddeugain mlynedd. Y mae'r lle yn garnedd ers blynyddoedd, a chuddir y rhan fwyaf o'r bryn gan olewydd—lannau; ac wrth gloddio cafwyd seiliau plasdy o dan bedwar ugain troedfedd o adfeilion a daear, ac y mae y murddyn yn cuddio dwy