Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

acer o dir. Ymhlith y pethau a ddarganfuwyd y mae pymtheg a thrugain o ddarnau o lestri pridd yn dwyn ysgrif, ac y mae'n amlwg mai costrelau gwin ac ystenau olew oeddynt. Dywedir o ba winllan ac o ba olewydd—lan y daeth cynnwys y llestr; a chredir mai at winllan Naboth (1 Bren, xxi.) y mae'r cyfeiriad pan sonnir am "Winllan y Tell"—neu winllan y tir uchel.

Bu Dr. Sellins a'i gwmni, dros Athrofa Vienna a llywodraeth Awstria, yn archwilio Taanach—un o ddinasoedd brenhinol y Cananeaid, yn rhandir Isachar. Tarawyd ei brenin gan Josua (xii. 21); ac yn ei hymyl yr ymladdodd Barac a brenhinoedd gwlad yr addewid, a dethlir y fuddugoliaeth yng nghân Deborah.

Darganfuwyd nifer o lythyrau ar glai mewn llythrennau cŷn-ffurf. Perthynant i'r blynyddoedd rhwng 2000 a 1300 c.c. Yn un o honynt gorchmynnir i lywodraethwyr Taanach dalu teyrnged i Megido.

Daeth pethau rhyfedd i'r golwg drwy gloddio yn Bethsemes. Yr oedd yno uchelfa a cholofnau, a chladdfa i'r meirw dani.

Bu y Gymdeithas Ddwyreiniol Ellmynig yn brysur ar adfail Jerico; a chaw-