Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sant olion muriau amryw o hen ddinasoedd; a bernir fod un, neu ychwaneg o honynt, yn henach na goruchafiaeth yr Hebreaid o dan Josua.

Gwarglawdd o dros fil o droedfeddi mewn hyd, a thua phum cant o droedfeddi o led, yw murddyn Jerico—dinas y palmwydd (Deut. xxxiv. 3). Y mae'r muriau mewn cyflwr pur dda. Y maent yn drwchus ac yn uchel, ac, fel yr awgrymwyd, nis gellir gwybod ai y mur a syrthiodd pan ddaeth y seithfed tro i ben, ydyw. A syrthiodd pob darn o furiau Jerico? "A'r mur â syrthiodd i lawr odditanodd," a ddywedir yn yr hanes. "Yn gydwastad," medd y Cyfieithiad Diwygiedig; ac yn ei le," medd yr Hebraeg. Digon i lanw ystyr y geiriau sy'n desgrifio'r amgylchiad ydyw'r hyn a gredir yn dra chyffredin, sef, mai rhan o fur y ddinas—digon i ollwng pob un i fyned i fyny ar ei gyfer, a syrthiodd; ac onid ar waith yr hwn a wna Jerico yn ddinas warchaedig trwy adeiladu ei mur y mae melldith Josua yn gyfeiriedig (Jos. vi. 26; 1 Bren. xvi. 34).

Yr oedd y ddinas yn gyfaneddol yn nyddiau Dafydd, oherwydd gorchmyn nodd y brenin i'r gweision a dderbynias-