Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd am i'w weithredoedd nerthol roddi goleuni arno; ac yn ol fel y byddai dynion yn ateb y cwestiwn ynglyn ag ef y derbyniasant ac y gwrthodasant ef. O Nazareth y deuai, meddai rhai. "Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon, ac onid yw ei chwiorydd ef yma, yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef." Dywedai ereill, y mae gennym gryn ymddiriedaeth yn eu barn,-"Nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddiwrth Dduw"-ac y mae y gwirionedd iddo ddyfod oddiwrth Dduw yn perthyn yn agos iawn i un arall, sef fod Duw gydag ef.

Y mae afonydd gras fel afonydd natur yn codi ymchwil am a fu. Gwel sant a chredadyn "yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr;" a gwelant bob dim lle y delo yn byw; ac ânt yn ol gyda'i glan. Ant yn ol at fynydd yr esgyniad weithiau. Teithiant yn aml at y bedd gwag yn yr ardd. Yno teimlant chwaon bywyd newydd yr adgyfodiad yn iachau gobeithion eu henaid. Yn aml, aml troant eu hwynebau i Galfaria-y Calfaria roes haeddiant a hedd. Teithiant brydiau ereill at y mynydd sanctaidd lle y bu eu