Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwaredwr yn ymwisgo mewn disgleirdeb. Y mae dau efengylwr a dau apostol wedi aros ennyd yno. A llawer yn ol gyda glan yr afon í Fethlehem. A Ioan yng ngham cyntaf yr Efengyl dros y terfyn i dragwyddoldeb-a theithia llawer o dan ysbrydoliaeth at y man y cododd y meddwl cyntaf am achub gwael, golledig, euog ddyn. Rhaid i'r meddwl fyned yn ol. Y mae gan y llais o'r tu ol lawer i ddysgu iddo. Y mae henaint a phrofiad yn teilyngu gwrandawiad.

Nid ydym am fyned yno i aros: oherwydd ymlaen y mae'r goreu. "Yr hwyr a fu a'r bore a fu" (nid bore a hwyr) yw trefn Duw. Y mae'r byd ar ei daith o anrhefn i drefn, o dywyllwch i oleuni, o'r amherffaith i'r perffaith. Sylwn ar bedair carreg filltir ym mywgraffiad y ddaear.

"Y ddaear oedd afluniaidd a gwag"-

"Llawn yw y ddaear o'th drugaredd"-

"A'r ddaear a lanwyd o'i fawl".-

"Eithr nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni yn ol ei addewid ef yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu." Yn y blaen y mae'r goreu.

Weithiau dysgir dynion i fynd ymlaen drwy gofio yr hyn sydd yn ol. Cododd Duw golofnau i'r gorffennol, er mwyn