Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dangos mai yr un yw efe o hyd. Gwaredigaeth fawr oedd honno yn yr Aifft-a honno o'r Aifft,-

"A hwythau rhwng creigiau crog,
Yn llaw yr Hollalluog.

Y mae'r drugaredd fawr honno i adael ei hol ar y genedl ddyddiau'r ddaear, ac yr oedd gwyl y Pasc wedi ei llunio i'w cynorthwyo i fyned yn ol; ac o ddeall eu gorffennol, credent er dwys ysbrydoliaeth i'w bywyd y gallai Duw o hyd wneud. llwybr dros le mor anhawdd a gwaelod y Mor Coch. Llawer gwers sydd gan y dyddiau gynt ar ein cyfer ninnau. Dyddorant ni; dysgant ni, a chyfoethogant ni. Yr ydym am bwyso ennyd ar y gorffennol fel y gŵr gynt ym Methel ar y garreg, er mwyn cael ysgol y weledigaeth i'w dringo.

Y mae lleisiau'r gorffennol o furiau a cholofnau, o bapur-frwyn, o ddarnau o bridd-lestri, o adfeilion ac o feddau y Dwyrain, yn amrywiol iawn; a meddant gymaint o swyn i'r rhai sydd ag anianawd y pethau hyn ynddynt, fel y mae daear yr Aifft a Chanan ac Asia Leiaf yn adrodd pennod ar ol pennod o hanes y dyddiau a fu gyda chyflymder mawr; a diau gennyf y bydd ychydig o fanylion.