Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am rai o'r pethau pwysig a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn y Dwyrain o ddyddordeb i gyfeillion y Llyfr, brenin y llyfrau i gyd, a ddaeth o'r Dwyrain. Ie, gymaint ddaeth o'r Dwyrain heblaw pelydrau cyntaf y dydd. Dilyn yr haul y mae doniau pennaf bywyd. Oddiyno y daeth. gwareiddiad, dysgeidiaeth, gwyddoniaeth, crefydd, ac o Un fu byw a marw ynddi, y cafwyd trefn i faddeu pechod ac i addurno enaid â'i ddelw. Yno y cafodd crefydd Crist ei phroffeswyr cyntaf; ac y mae gan y Dwyrain lawer i'w ddweyd mewn ffordd o esboniad ar y gwirionedd sydd yn ein llaw, ac i gadarnhau ein ffydd ni ynddo. Un o ddyddiau mawr y Beibl fydd hwnnw, pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist wedi meddiannu'r Dwyrain, ac y bydd gwledydd y proffwydi a'r ysgrifen- wyr ysbrydoledig ereill wedi dod a'u hes- boniad hwy ar lawer ffigiwr ac arferiad y sonnir am danynt yn y gwirionedd dwy- fol.

Llyfr Duw a roddwyd drwy ddyn yw y Beibl; ac y mae eglurhad ar lawer cymal oedd ym meddwl yr ysgrifennydd yn gwneud neges y nefoedd yn fwy awdurdodol am ein bod yn ei deall yn well. Fel profion allanol i wirionedd a dilysrwydd.