Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Ysgrythyr Lan ni chafwyd dim i ddwyn tystiolaeth gryfach yn llys beirniadaeth na'r hyn a gafwyd yn adfeilion dinasoedd yr hen fyd, a'r hyn a ddarganfuwyd ym meddau yr hen genhedloedd. Yr ydym yn credu na fedd gair y gwirionedd ddim ategiad cryfach iddo'i hun na phrofiad y saint. Dyma'r unig gyfrol sydd yn meddu agoriad i gloion y galon ddynol, hon a feiddiodd ddweyd yr holl wir wrth ddyn yn ei drueni, a hon yn unig a barodd i obaith dorri fel gwawr ar ei hanes. Y prawf mewnol yw y cryfaf. Y galon a driniwyd gan ras y Duw a lefarodd y gwirionedd dwyfol wedi'r cwbl yw y tyst goreu. Pair yr iachawdwriaeth i ddyn feddiannu gallu i brofi y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Nid pawb a fedd hwn. Y mae llawer yn amddifad of raddau helaeth o hono, a phan y mae y galon yn ddistaw da cael gan y cerrig a'r priddfeini i lefaru.

Y mae y maes a agorir gan y darganfyddiadau yn un o ddyddordeb dwfn, gan ei fod yn aml yn agoryd i ni ochr arall i'r hanes. Adroddir yn fanwl hanes yr hen genedl yn disgyn drwy bechod i afael cenhedloedd cryfion Babilon, Ninefeh, a'r Aifft. Hanes ydyw, yn yr Ysgrythyr, a